Mae Cyngor Cymuned Trawsfynydd yn ymestyn o Nant Tyddyn yr Ynn yn y Gogledd Bryn Eden i’r De, Cefn Clawdd yn y Gorllewin ac Yr Allt Lwyd i’r Dwyrain.
Poblogaeth o 973 (Cyfrifiad 2011) sydd gan Trawsfynydd gyda 424 o aelwydydd. Mae’r Cyngor Cymuned yn weithgar iawn yn gwneud gwaith amgylcheddol, datblygiadau cymunedol a chefnogi ei thrigolion gyda materion personol a chymunedol.
Gwasaneithir yr ardal gan 12 Cynghorwr Cymunedol gydag ystod eang o wahanol sgiliau a phrofiadau.
- Cadeirydd Aron Roberts
- Is Gadeirydd Glain Williams
- Cynghorydd Richard W Davies
- Cynghorydd Sarah Hughes
- Cynghorydd A Huw Jones
- Cynghorydd Elan M Jones-Roberts
- Cynghorydd Hefin Jones
- Cynghorydd Iwan Jones
- Cynghorydd Enid Roberts
- Cynghorydd Aranli Thomas
- Cynghorydd Idwal W Williams
Etholir Cadeirydd ag Is-Gadeirydd yn y cyfarfod blynyddol a gynhelir ym mis Mai.
Mae gan y Cyngor Cymuned yr Is bwyllgorau canlynol i drafod materion yn ymwneud â:
• Brys a Chynllunio
• Mynwentydd (Pencefn a Salem)
• Llwybrau
Mae Cynghorwyr Cyngor Cymuned Trawsfynydd hefyd a phresenoldeb ar y pwyllgorau canlynol:
• Ysgol Bro Hedd Wyn
• Un Llais Cymru
• Cyfeillion Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog
• Clwb Prysor
• Ysbyty Alltwen
• Grŵp Rhanddeiliaid Safle Trawsfynydd (Magnox)
• Neuadd Gyhoeddus Trawsfynydd
• Datblygu Llyn Trawsfynydd
• Cyfeillion Yr Ysgwrn
Gall aelod o’r cyhoedd ddod a mater i sylw Cyngor Cymuned Trawsfynydd anfon ebost i sylw’r Clerc:
Bydd y Cyngor yn ceisio ymateb mor fuan a phosib wedi i’r mater gael ei drafod.
Mae’r Cyngor Cymuned yn trafod rhoddion ariannol i grwpiau a mudiadau lleol. I wneud cais am gymorth ariannol rhaid cwblhau y ffurflen gais a cynnwys mantolen ariannol i sylw y Swyddog Ariannol erbyn y 25 o fis Chwefror fel bod y Cyngor mewn sefyllfa i drafod y ceisiadau yng nghyfarfod mis Mawrth bob blwyddyn.
Rhybudd Cwblhau Awdit i Mawrth 2025
Adroddiadau Ariannol



