CROESO

Busnesau

Isod mae rhestr o fusnesau’r ardal


CAMBRIAN GARAGE (J.M. Hughes a’i Feibion)
Rhif Ffôn.: (01766) 540 233

Mae’r busnes teuluol yma a sefydlwyd yn niwedd yr 1800’s yn cynnig gwasanaeth cynnal, cadw a thrwsio ceir, gwerthiant petrol,disel a theiars.

Angen diweddaru eich tystysgrif MOT!
Galwch heibio mae’r modurdy yn orsaf brofi awdurdodedig.

Beth am fodur newydd?
Croeso i chi gael golwg ar y ceir a’r moduron masnachol ysgafn sydd ar werth.

Oriau agor 9.00 y bore. | 6.00 y nos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.


AMAETHWYR CLYNDERWEN & CHEREDIGION
Rhif Ffôn: (01766) 540 216 A

I gadw yn gynnes: Glo, Phurnacite, Anthracite, Coalite, Homefire, Charcoal, Supergas (7Kg, 13Kg, 47Kg).

I gadw yn lân : Persil, Comfort, Domestos.
I’r ardd : Compost, Mawn a Growbags.
I’r adeiladwr : Twls, Sment, Tywod a Brics.
I’r addurnwr : Paent, farnish a staen.
Pob math o fwydydd anifeiliad yn cynnwys anifeiliad anwes.
Hefyd mae dewis da o ddillad ac esgidiau ar gael.


CHEMIST / FFERYLLFA (Rowlands)
Rhif Ffon : (01766) 540 463

O fewn tafliad carreg i’r Ganolfan Iechyd mae’r fferyllfa fach yma yn darparu dewis mawr o ddeunydd fferyllol ar gyfer eich anghenion – o boen yn eich pen, eich bol neu fawd eich troed.

Ar agor:
Dydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener.
Ar gau Dydd Sadwrn a Dydd Sul.


YSTORFA GLYNDWR (Gareth a Linda Jones)
Tel. No: (01766) 540 228

Gwasanaeth gyda gwén am eich nwyddau, ynghyd a gwasanaeth Swyddfa Bost , peiriant arian, ’off-licence’. Hefyd cardiau ich ffón symudol.

Oriau agor:
8.30 y.b./ 7.30 y.p. Dydd Llun i Dydd Sadwrn
10.30 y.b./13.00 y.p. Dydd Sul


PRYSOR SERVICE STATION
Tel. No: (01766) 540 534

Wedi ei leoli ger cyswllt ffordd y Bala yr A4212, darparir yma betrol, diesel, nwy (L.P.G) a gwasanaeth newid teiars. Mae yma hefyd siop fechan yn gwerthu nwyddau ac addurniad gardd yn ogystal a gwerthu nwy potel. Hefyd gellwch logi fan yma. Ar agor 7.00 hyd 7.30.


SIOP BAPUR (Jackie)
(01766 540234)

Cewch groeso cynnes yn y siop bapur sydd ar agor o 6:45.a.m. tan 5:00.p.m. yn ddyddiol. Galwch i mewn i’r siop i brynu bwydydd, anrhegion, dillad, teganau, offer pysgota, cardiau Cymraeg a Saesneg.

Llety

Gall Trawsfynydd gynnig llety at ddant a phoced pawb.

Llys Ednowain

Corau