CÔR MEIBION PRYSOR
Sefydlwyd Côr Meibion Prysor yng nghanol y chwedegau ac mae mwyafrif o’r aelodau yn hannu o bentref Trawsfynydd a’r cyffiniau. Yn eu hamrywiaeth o ganeuon, sy’n cynnwys emynau, caneuon gwladgarol, cerdd dant, alawon gwerin, caneuon ysgafn eu naws ynghyd â chaneuon a anfarwolwyd gan gorau eraill o Gymru a’r byd, maent yn ymfalchïo’n y ffaith eu bod yn cael cyfle i fod o wasanaeth i ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt.
Swyddogion y Côr
Arweinydd : Iwan Morgan
Cyfeilyddes : Iona Griffiths
Cadeirydd : John Heddwyn Jones
Trysorydd : Gwyndaf Lewis
Ysgrifennydd : Derfel Roberts, 6 Stryd Ty Llwyd, Stesion, Trawsfynydd.