CROESO

Croeso i Drawsfynydd


Cofeb Hedd Wyn

Cofeb Hedd Wyn yn y pentref

Lleolir pentref Trawsfynydd ar fryn ar flaen dyffryn rhewlifol, gyda’r briffordd A470 yn cyd-rhedeg i’r gogledd /de gyda’r pentref.

Mae’r pentref wedi ei leoli mwy na heb ynghanol yr hen Sir Feirionnydd, sydd nawr yn ffurfio rhan o Dde Gwynedd. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o oddeutu 1000 – mae’r ardal felly gyda ychydig o boblogaeth sef 0.07 person i bob hectar.

Mae’r pentref yn nodweddiadol fel unrhyw bentref Cymreig arall. Ceir yn y pentref ddwy siop groser, dau dafarndy, siop bapur newydd, garej, gorsaf petrol, siop nwyddau a changen o fasnachwyr amaethyddol a chaledwedd. Gwasanaethau Swyddfa Bost.

Mae ysgol gynradd dda yn y pentref sef Ysgol Bro Hedd Wyn yn darparu ar gyfer anghenion addysgiadol y Gymuned ac mae ynddi ar hyn o bryd oddeutu 100 o ddisgyblion.

Cynhelir gwasanaethau crefyddol ar y Sul yn Eglwys Sant Madryn a Moriah Capel y Fro.

Mae’n werth nodi bod 86% o’r boblogaeth yn rhugl yn y Gymraeg sy’n gwneud y pentref yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg.


Llety

Gall Trawsfynydd gynnig llety at ddant a phoced pawb.

Llys Ednowain

Corau