CROESO

Llety

Isod mae casgliad o lefydd aros yn yr ardal:


HOSTEL LLYS EDNOWAIN
Mae hostel Llys Ednowain yn agored drwy’r flyddyn ac yn darparu hwylusdod am bris rhesymol, £25 y noson. Mae 4 ystafell (en-suite) gyda gwres canolog a lle i 20 gysgu mewn gwlau bwnc. Mae dillad gwlau glân a thoweli yn cael eu darparu ar eich cyfer yn rhad ac am ddim. Mae croeso i chi ddefnyddio y peiriant golchi a’r sychwr, neu gwnewch bryd o fwyd yn y gegin a mwynhewch y golygfeydd bendigedig sydd o’ch cwmpas neu gwyliwch y teledu. Mae cyfrifiadur wedi ei osod yn y gegin/lolfa os ydych angen anfon e-bost neu bori’r rhyngrwyd. Bydd eich beic yn ddiogel yn y storfa bwrpasol. Mae digon o fwynderau lleol o fewn cyrraedd hawdd i’r Llety yn cynnwys ty tafarn, siop bapur, groser gyda Swyddfa Bost ac ’off-licence’, a modurdy. I’r rhai ohonoch sydd yn hoff o gerdded mae o gwmpas 60 milltiroedd o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal.

Facebook
Ffôn: 07379521802 (24/7)
Ebost: llysednowain@btconnect.com


OLD MILL FARMHOUSE FRONOLEU FARM, TRAWSFYNYDD
Mae fferm Fron Oleu yn mwynhau lleoliad delfrydol ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri, ac o fewn cyrraedd i’r mwyafrif o’r atyniadau twristiaeth a gweithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio mynydd, pysgota a ffotograffiaeth. Mae’r hen stablau a’r ty gwair wedi eu hatgyweirio i gynnig 7 ystafell gyfforddus ’en-suite’, a gan fod pob ystafell gyda drws annibynol maen’t yn addas ar gyfer ymwelwyr gydag anifeiliaid anwes neu sydd yn cyrraedd yn hwyr wedi diwrnod o waith. Mae digon o le ar gyfer moduron ar y buarth ac yr ydym yn cynnig storfa ddiogel ar gyfer beics. Mae llety ar gyfer 19 o bobl – 3 lloft dwbl, 2 ’twin’ a 2 ystafell deulu ac mae’r ystafell deulu gyda’r ystafell wlyb ’en-suite’ ar gael i’r gwesteion sydd yn defnyddio cadair olwyn. Mae ein rheilffordd ’G-scale’ ardderchog sydd yn seiliedig ar rheilffordd Denver a Rio Grande yn boblogaidd iawn gyda’n gwesteion ac yn dod ac ychydig o’r Gorllewin Gwyllt i Orllewin Cymru. Yma ar y fferm cewch fwynhau ein wyau maes a cael eich diddori gan yr anifeiliaid bach a’r ’llamas’.

Ffôn/Ffacs : 01766540397
www.oldmillfarmhouse.co.uk
E-bost: stay@oldmillfarmhouse.co.uk


1 TAN LLAN, TRAWSFYNYDD
Bwthyn o’r (17ed) ganrif wedi ei leoli mewn rhan ddistaw o bentref Trawsfynydd. Mae ei swyn wladaidd wedi apelio at bobl ar ei gwyliau am y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf, gyda trawstiau agored ac awyrgylch gartrefol yn ei wneud yn encilfan groeshawus ar ol teithio Eryri. Yn yr ardd flaen ceir torf o wahanol flodau lliwgar gyda patio bychan yn y cefn. Ceir teledu lliw yn y lolfa, cegin, ystafell ymolchi a chawod, dwy loft, (un ddwbl,un sengl a chrud). Lle i uchafswm o 3 person a chrud. Dau wresogydd nos. Mae’r trydan yn gynwysedig. Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.

2 TAN LLAN, TRAWSFYNYDD

Bwthyn arall or (17ed) Ganrif yn gyflawn hefo to nenfforch, gyda trawstiau agored sydd yn ychwanegu at ei awyrgylch hen. Mae y bwthyn hwn hefyd mewn man distaw o bentref Trawsfynydd, yn ardderchog fel lleoliad i deithio o amgylch golygfeudd godigowgrwydd Eryri, fel y gwnaeth eraill dros y pum mlynedd ar hughain diwethaf. Yn yr ardd flaen ceir torf o wahanol flodau lliwgar gyda patio bychan yn y cefn. Mae ynddo lolfa a teledu lliw, cegin, ystafell ymolchi a chawod, 1 lloft (1 dwbl hefo crud). Lle i uchafswm o 2 berson a chrud. Y trydan yn gynnwysedig.. Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.

Cysylltwch a ni rwan ar (01766 ) 540 317 am fargen o bris a neulltuad.


TRAWSFYNYDD HOLIDAY VILLAGE
Yn y pentref gwyliau dyrchafedig a darluniadwy yma ceir cabanau math Norwy dadgysylltiegid yn goruchwylio y Rhinogydd gyda Cader Idris ir De ar Wyddfa ir Gogledd. Mae ar y safle siop gyda rhan drwyddedig, golchdy gyda peiriant golchi a sychu a teleffon gyhoeddus. Mae y cabanau yn perthyn i unigolion, gosodir rhai allan drwy gyfundrefn. O dro i dro daw cabanau ail law ar werth. (Mae rhestr i’w gael), Mae y pentref gwyliau hefyd yn cynnwys safle beiciau mynydd a gwesty Rhiw Goch. Gellir llogi beiciau mynydd i deuluoedd a grwpiau o unrhyw faint a hefyd wyliau pen wythnos drwy’r flwyddyn neu wyliau haf.

Archebwch yn awr drwy roi caniad ar
(01766)540219 neu (01766)540555
e-bost: staff@logcabinswales.co.uk
www.logcabinswales.co.uk


TY CERRIG
Mae’r bwthyn traddodiadol yma sydd yn dyddio yn ôl i’r 1600 ac sydd wedi ei sefydlu tua 2 filltir o bentref Trawsfynydd yn mwynhau golygfeydd bendigedig a gyda gardd fach i’r blaen a nant a gardd fwy i’r cefn ynghyd a dodrefn a barbaciw. Lolfa gyda teledu, fideo, DVD a stôf goed. Cegin/ystafell fwyta gyda meicrodon, ffrij/rhewgell a ’dishwasher’. ’Utility’ gyda peiriant golchi a sychu. Ystafell Gemau. 2 loft dwbwl a lloft sengl (gwlau bync), gwely plyg ar gael (os bydd angen). Gwres canolog olew. Lleoliad gwych ar gyfer cerdded, beicio a beicio mynydd. Dillad gwely ar gael. Lle ar gyfer 6/7 + cot.

Mae’n ddrwg gennym ond ni fedrwn ganiatau anifeiliad anwes.

Ffôn : 01766 – 5408144


CAE GWYN FARM AND NATURE RESERVE BRONABER
Fferm organig yw Cae Gwyn wedi ei leoli ger yr A470, rhyw 3 milltir o bentref Trawsfynydd ac o fewn pelleter beicio o Ganolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin. Yr ydym yn cynnig gwely a brecwast a cyfleusterau gwersyllu mewn man hardd a naturiol ac ein hamcan yw darparu profiad gwyliau ecolegol gyfeillgar mewn amgylchedd heddychol. Mae ein brecwast yn cael ei goginio yn organig gan ddefnyddio chynnyrch lleol gymaint a bosibl, ac mae ein dwr yfed yn dod o ffynnon ein hunain. Gwahoddwn ein gwestai i gerdded yn rhydd o amgylch ein fferm sydd yn cynnwys 190 o erwau ac hefyd i bysgota yn ein afon (Afon Eden) lle yr ydym yn berchen hawliau preivat. Mae Cae Gwyn yn lle ardderchog i feiciwr mynydd, cerddwr, gwyliwr adar a pysgotwyr brwdfrydig sydd yn dymuno archwilio mynydd y Rhinogydd ar llynoedd ac afonydd amgylchoedd.

Ffôn : 01766 540245
Ffon symudol : 07818082040
ebost: enquiries@caegwynfarm.co.uk
www.caegwynfarm.co.uk


CROSS FOXES
www.crossfoxes.org.uk
Simon Williams 01766 540 204

Llety

Gall Trawsfynydd gynnig llety at ddant a phoced pawb.

Llys Ednowain

Corau