Atyniadau Lleol
Hwyrach eich bod yn cael yr agraff mae pentref tawel ynghanol y mynyddoedd yw Trawsfynydd – ond mae digon i’w wneud a gweld yma!
Pysgota
Mwynhewch ddiwrnod heddychol a thawel yn pysgota am dé ar Lyn Trawsfynydd (Trydydd llyn mwyaf Cymru). Pa nai am frithyll brown neu enfys, draenogyn neu rhyddbysgodyn. Cewch bysgota o 8.00 y.b. hyd awr wedi machlud haul fel y canlyn:
Brithyll Brown:
Chwefror i Medi.
Brithyll Enfys:
Chwefror i Rhagfyr.
Pysgota Brás:
Chwefror i Rhagfyr.
Mae yn bosib llogi cychod pysgota .
Ceir drwydded ac ychwaneg o wybodaeth o siop bapur, Manchester House, Trawsfynydd neu ar y rhyngrwyd: fishing@trawsfynyddlake.fsnet.co.uk
Rhif ffon: (01766) 540 234
Atyniadau eraill o fewn 15 munud i’r pentref:
• Canolfan Feicio Mynydd, Maesgwm a Canolfan Goedwig Coed y Brenin, Ganllwyd
• Ceudyllau Llechi Llechwedd , Blaenau Ffestiniog
• Rheilffordd, Blaenau Ffestiniog Terminus
•
Pentref Eidalaidd Portmeirion
• Tref Harbwr Porthmadog gyda Chanolfan/Pwll Nofio
• Tref Farchnad Dolgellau
• Crawcwellt – Anheddiad Oes Haearn tua 2 fillitir i’r de o Drawsfynydd
• Tomen y Mur – Caer Rhufeinig o safle castell Normanaidd tua 3 milltir i’r gogledd o Drawsfynydd.
Atyniadau eraill o fewn 25 munud i’r pentref:
Coed y Brenin – www.mbwales.com
• Tref glan y mor Bermo gyda chanolfan hamdden a chlwb nos
• Harlech gyda’i Gastell enwog, pwll nofio a traeth tywod
• Tref marchnad y Bala gyda chanolfan hamdden/pwll nofio
• Canolfan Cenedlaethol Tryweryn ger Bala.
• Rheilffordd Llyn Tegid y Bala
•
Pentref Beddgelert