CROESO

Hanes

Hanes Trawsfynydd

Mae hanes cyfoethog iawn i’r pentref a’r ardal:

Cynhanes
Mae’r pentref yn agos iawn at lwybr fasnach Oes Efydd a ddefnyddiwyd gan deithwyr o ac i’r Iwerddon ar eu ffordd i Wiltshire – canolfan ddiwylliannol Prydain yn y dyddiau hynny. Gwelir engreifftiau o garnau, megaliths, cytiau crwn a chytiau caeedig sy’n dystiolaeth i gefnogi bodolaeth yr anheddiad cynhanes yn yr ardal.

Meddiannaeth Rhufeinig
Credir mai’r Rhufeiniaid a roddodd enw presennol y pentref, sef Trawsfynydd o’r gair Rhufeinig Trans Mons – dros y mynyddoedd, enw cymwys iawn a chymryd i ystyriaeth y nifer o fynyddoedd sy’n amgylchynu y gymuned. Cyn yr enw presennol credir iddo gael ei alw yn Llan Eden Owain neu Llanednowain.Gwelir olion Rhufeinig enwog rhyw 3 milltir i’r gogledd o’r pentref yn Tomen y Mur.

Y Normaniaid
Yn Nhomen y Mur, a gyfeirir uchod, gellir gweld olion amlwg Castell Normanaidd. Honnir hefyd i’r safle fod yn Llys yr Oes Dywyll wedi ei selio ar wybodaeth yn Chwedl y Mabiniogion Math fab Mathonwy. Serch hynny, nid oes tystiolaeth archeolegol i brofi hyn, eto!

Hanes Diweddar
Ganwyd Ellis Humphrey Evans, sef Hedd Wyn, ym 1887 ym Mhenlan, Trawsfynydd.Dechreuodd Hedd Wyn farddoni yn gynnar iawn ac enillodd ei gadair gyntaf yn Eisteddfod y Bala ym 1907.

Cafodd Hedd Wyn ei alw i’r fyddin ym 1917 ac fe aeth i Fflandrys.Yn y frwydr Passchendaele bu Hedd Wyn, ymysg llawer eraill, farw.Yn yr un flwyddyn cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.Ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar 6 Medi cyhoeddodd y beirniad bod y bardd buddugol o dan y ffugenw “Fleur-de-lis” yn llawn haeddiannol i’w gadeirio. Hysbyswyd y gynulleidfa mai’r enillydd oedd Private E. H. Evans – Hedd Wyn – a’i fod wedi ei ladd ar faes y gad fis ynghynt a gyda thristwch fe orchuddiwyd y gadair gyda chwrlid du.

John Roberts (Merthyr)
Cliciwch yma i wybod mwy am John Roberts y merthyr

Llety

Gall Trawsfynydd gynnig llety at ddant a phoced pawb.

Llys Ednowain

Corau